Ffilm yn 2008
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiadau mewn blwyddyn neu gyfnod amser penodol, erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|---|
Dyddiad | 2008 |
Rhagflaenwyd gan | 2007 in film |
Olynwyd gan | Ffilm yn 2009 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd sawl ffilm newydd eu rhyddhau led-led y byd yn 2008, gan gynnwys nifer o ffilmiau poblogaidd megis Rambo, The Chronicles of Narnia: Prince Caspian, Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull, Hellboy II: The Golden Army, The Dark Knight, The X-Files: I Want to Believe, The Mummy: Tomb of the Dragon Emperor, Star Wars: The Clone Wars, High School Musical 3: Senior Year, Saw V, Quantum of Solace, Madagascar: Escape 2 Africa a The Sisterhood of the Traveling Pants 2.
Y ffilmiau a wnaeth fwyaf o arian
[golygu | golygu cod]Sylwer yn dilyn traddodiad y diwydiant ffilm Saesneg, dyma restr o'r ffilmiau a wnaeth fwyaf o arian ac a gafodd eu rhyddhau gyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2008. Y deg ffilm uchaf yn 2008, yn ôl cyfanswm crynswth mewn $UDA, yn ogystal â Chanada, y DU ac Awstralia oedd:
Safle yn 2008 | Teitl | Stiwdio | Cyfanswm byd-eang | Cyfanswm crynswth UDA/Canada | Cyfanswm crynswth y DU | Cyfanswm crynswth Awstralia |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | The Dark Knight | Warner Bros. | $1,001,921,825 | $533,345,358 | $89,066,002 | $39,880,001 |
2 | Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull | Paramount | $786,636,033 | $317,101,119 | $79,283,312 | $27,981,873 |
3 | Kung Fu Panda | DreamWorks | $631,908,951 | $215,434,591 | $39,405,501 | $24,764,811 |
4 | Hancock | Columbia | $624,386,746 | $227,946,274 | $49,170,891 | $19,636,856 |
5 | Mamma Mia! | Universal | $602,609,487 | $144,130,063 | $132,342,643 | $29,287,466 |
6 | Madagascar: Escape 2 Africa | DreamWorks | $594,728,447 | $180,010,950 | $34,437,038 | $15,093,421 |
7 | Iron Man | Paramount | $582,030,528 | $318,412,101 | $33,822,889 | $18,880,106 |
8 | Quantum of Solace | MGM / Columbia | $575,952,505 | $168,368,427 | $80,805,643 | $20,645,336 |
9 | WALL-E | Disney / Pixar | $534,767,889 | $223,808,164 | $41,215,600 | $14,165,390 |
10 | The Chronicles of Narnia: Prince Caspian | Disney | $419,651,413 | $141,621,490 | $21,581,030 | $13,181,570 |
Daw'r ystadegau hyn o Box Office Mojo, gan gynnwys 2008 Canlyniadau Swyddfa Docynnau Blynyddol.
Yn gyfangwbl, rhyddhawyd pumdeg wyth ffilm a wnaeth fwy na $100 miliwn yn 2008. Roedd deuddeg ffilm wedi gwneud dros $400 miliwn, tra bod The Dark Knight wedi gwneud dros $1 biliwn, gan wneud y ffilm y pedwerydd ffilm mwyaf llwyddiannus yn fasnachol erioed. Ar 4 Awst cyrhaeddodd The Dark Knight cyfanswm crynswth o $400 mewn cyfnod o 18 niwrnod yn unig. Daliwyd y record blaenorol gan Shrek 2, a gyrhaeddodd $400 miliwn mewn 43 niwrnod.[1] Ar 31 Awst, 45 niwrnod ar ôl i'r ffilm gael ei rhyddhau, cyrhaeddodd The Dark Knight $500 miliwn, gan ei gwneud yr ail ffilm erioed ar ôl Titanic i groesi'r trothwy hanner biliwn o ddoleri. Mamma Mia! oedd y ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed yn y Deyrnas Unedig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Dark Knight Breaks $400 Million in Record Time Archifwyd 2008-08-25 yn y Peiriant Wayback; 5 Awst 2008. Adalwyd 6 Awst 2008